Hanes Clwb Hwylio Cei Newydd 1954 i 2005


Sefydlwyd Clwb Hwylio Cei Newydd yn 1950 pan y daeth ffrindiau y nghyd i brynu cychod hwylio bach a welwyd am y tro cyntaf yn yr amser hyn. Gelwyd y rhain yn "GP14" a cynalwyd rasus yn gyson yn Cei Newydd am lawer blwyddyn. Y mae y clwb yn awr yn cynal Rasus i Gychau hwylio bach a mawr ac hefyd noswethiau cymdethasol o bob math.

new quay yacht club

Crynodeb o Hanes Cei Newydd

Tyfodd pentref Cei Newydd, fel yr ydym yn ei weld heddiw, bron yn gyfan gwbl yn y 19eg ganrif, ond grymoedd marchnad yn ystod chwarter olaf y 17eg ganrif oedd wedi ysgogi ei dyfiant. Dilynwyd adferiad Siarl II gan adeg o gynnydd cyffredinol mewn cyfoeth, a theimlwyd effeithiau’r datblygiad hwn hyd yn oed ym mhlwyf anghysbell Llanllwchaearn, lle y lleolwyd Cei Newydd. Roedd eisoes nifer o ffermydd hir-sefydlog yn y plwyf; mae’n sicr i rai ohonynt fod yma yn y 16eg ganrif a chyn hynny, ac fe alluogwyd y ffermwyr gan sicrwydd daliadaeth i feddwl am fuddsoddi mewn llongau ac i adeiladu ‘cei newydd’ yn y 1690au. Fe’i adnabyddir heddiw fel Penpolion.

New Quay in C19th

Halen, calch a glo oedd y llwythi nodweddiadol ac yr oedd cryn dipyn o bysgota, gan fod gyda’r rhan fwyaf o’r ffermwyr gyfrannau yn y cychod pysgota hefyd. Fodd bynnag, roedd y llongau cyntaf a feddiannwyd yma wedi’u prynu yn rhywle arall, a dim ond yn chwarter olaf y 18fed ganrif y cafodd Cei Newydd ei hiardiau llongau ei hunan ar y traeth (lle mae’r Ganolfan Chwaraeon Dŵr yn awr) ac ar Draethgwyn a Chei Bach.

Adeiladwyd dros 200 o longau yng Nghei Newydd rhwng 1779 a 1890, nid yn unig ar gyfer y fasnach arfordirol ond rhai ohonynt yn mynd i’r môr mawr, hynny yw, dros y byd i gyd, yn aml i Dde America ac i Fôr y Canoldir.

Bu Cei Newydd yn dre ffyniannus yn y 19eg ganrif ac fe atynnwyd pobl i ymgartrefu yma gan y rhagolygon da a gynigiwyd ganddi.

Adeiladwyd y pier, sy’n nodwedd mor amlwg o Gei Newydd, rhwng 1835 a 1837, a llanwyd y dref gan seiri llongau, gofaint, gwneuthurwyr hwyliau a rhaffau, a llawer o siopwyr. Roedd 116 o forwyr yn byw yma ym 1851, yn ôl y cyfrifiad. Dim ond yn y genhedlaeth bresennol, gyda’r gostyngiad yn llynges fasnachol Brydain, y mae’r môr wedi peidio â denu dynion ifanc y Cei.

Ymhen amser, fodd bynnag, gyda chyrhaeddiad pŵer ager a’r galw am longau mwy o faint wedi’u wneud o dur, lleihaodd y galw am longau pren Cei Newydd. Nid oedd y porthladd bychan yn gallu cystadlu mwyach.

Sylwn, tua diwedd y 19eg ganrif, rôl newydd yn ymddangos ar gyfer y pentref, fel cyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Ysgrifennodd ymwelwr ym 1885 ei fod wedi darganfod Ultima Thule, gan ychwanegu eu bod ef a’i gyd-deithwyr wedi gweld eu cyrchfan am filltiroedd cyn iddynt droi oddi ar yr heol i Aberteifi, tref fach, yn edrych yn wyn yn yr heulwen ddisglair, wedi’i hadeiladu ar hyd ochrau serth bae pefriog … y dref fach fwyaf hudol a phictiwrésg y gellir dymuno ei gweld. A blwyddyn ar ôl blwyddyn tyrrodd yr ymwelwyr yma.

Trwy ei hanes y mae Cei Newydd wedi gafael mewn cyfleoedd i ddatblygu ac i ffynnu. Ar ôl bod, yn y gorffennol, yn ficrocosm o borthladdoedd pwysig oes Fictoria fel Manceinion a Lerpwl, ac ar ôl gwneud cyfraniad cydnabyddedig i hanes morol Prydain, ei morwyr wedi gwasanaethu gydag anrhydedd mewn dau Ryfel Byd ac ar gadfeysydd eraill, y mae Cei Newydd yn dal i fod yn borthladd pysgota gweithgar, ac y mae Cei Newydd yn awr yn un o leoedd gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion. Mae’r Adroddwr yn Under Milk Wood, drama a luniwyd gan Dylan Thomas yng Nhei Newydd (ac a gyfieithwyd i’r Gymraeg gan T. James Jones fel Dan y Wenallt) yn dweud ‘Mae amser yn cerdded, mae amser yn cerdded’, ond y mae amser wedi gosod ei droed yn ysgafn yma.

Sue Passmore (cyfieithiad gan Jenny Hyatt)